Cyfarfod Cangen Ffestiniog Branch Meeting

Cofnodion Cangen Ffestiniog 20.4.2009 Presennol: Iestyn Lloyd, Kiki Rees Stavros, Sion Williams, Dafydd Rhys a Ymddiheuriadau: Rhys Roberts (Cadeirydd), Cymunedau yn Gyntaf. 1. Croeso Yn absenoldeb Rhys cadeiriodd Dafydd Rhys y cyfarfod gan groesawu pawb. 2. Cyrsiau 2009-09 Nodwyd fod y rhan fwyaf o’r cyrsiau wedi rhedeg yn llwyddianus – ond fod niferoedd yn isel ar y cwrs cyfrifiaduron I ddechreuwyr a’r cwrs Cymraewg I Rieni heb redeg. 3. Cynllunio 2009-10 Trafodaethau yn mynd ymlaen rhwng Cell a CHWEA i sicrhau dilyniant i’r cyrsiau Creu Cylchgrawn. Gohirwyd trafodaeth fanwl tan y cyfarfod nesaf. 4. Wythnos Addysg Oedolion Cytunwyd i fwrw mlaen a Diwrnod Agored yn Cell ar 16 Mai gyda’r dosbarth Creu Cylchgrawn yn cyfarfod ac yn arddangos eu gwaith a’r cyfrifiaduron dylunio. Byddai Dosbarth fideo digidol SEREN yn dangos eu stori ddigidol am afonydd Ffestiniog yn y CWRT ac y byddai trafodaeth bellach gyda CELL parthed sesiwn flasu jamio. Cytunwyd i holi’r CO-OP am gydweithrediad. Byddai’r trefniadau terfynnol yn cael eu gwneud yn y cyfarfod cangen nesaf ar 11 Mai. 5. Partneriaethau Nododd DRh fod CHWEA yn cyd-drefnu dosbarthiadau gyda CELL a SEREN, yn llogi Canolfan DGO Maenofferen ar gyfer cyrsiau cyfrifiaduron ddechreuwyr. Mae Cymunedau’n Gyntaf yn awyddus i gyd-drefnu rhaglen ac mae posibilrwydd cydweithio gyda Thanymaen dan faner prosiect Meddwl Agored. Mae cysylltiadau hefyd gyda’r Eglwys Uniongred, Menter y Moelwyn, Cymdeithas Bro Ffestiniog a’r Fainc Sglodion. Cydweithir hefyd a darparwyr eraill. 6. Ethol swyddogion Cadarnhawyd fod Rhys Roberts yn gadeirydd a penodwyd Sion Williams yn swyddog marchnata. 7. Gwe-gangen Eglurodd DRh egwyddor sefydlu’r gwe-ganghennau. Trefnodd Sion bod llun yn cael ei gymeryd i’w osod ar y wefan a bod croeso i bawb yn enwedig rhai na allai fynychu cyfarfod flogio’u sylwadau.
Discussion started by pitra lundy , on 09 May 05:54 PM
Replies

Latest blogs

Photo Comments

  • fsd my favorite
  • barmouth3 Barmouth on a good day
  • 1 Llandudno with the Little Orme in the background
  • port3 The Cob, Porthmadog
  • port1 Blackrock Sands. The red arrow to my right on the horizon marks the location of Coleg Harlech WEA

Active Groups

mapping

Locations of visitors to this page